HARI NEUMANN

MA Addysg Cenedlaethol (Cymru)

Addysg

Helo, Hari ydw i ac rwy’n astudio’r MA Addysg Genedlaethol (Cymru) ym Met Caerdydd. Roeddwn bob amser yn gwybod fy mod am astudio gradd Meistr mewn Addysg, y cwestiwn oedd bryd ac a fyddai’n realistig ac yn gyraeddadwy ochr yn ochr ag addysgu’n llawn amser. Astudiais fy nghwrs TAR ym Met Caerdydd yn 2019 ac roeddwn wrth fy modd. Roedd yn gwneud synnwyr parhau â’m haddysg uwch o fewn cyfleuster sy’n fy ngwerthfawrogi, fy ngwaith ac sy’n cofleidio’r addysgeg yng Nghymru yn ystod yr amser y mae ysgolion yng Nghymru yn gwreiddio Cwricwlwm Cymru a’r diwygiad ADY. Hefyd, roeddwn i’n gallu cymhwyso’r credydau ychwanegol hynny o fy TAR i’m Meistr a oedd yn bendant yn fonws! Hefyd, llwyddais i sicrhau cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y cwrs. Roeddwn i’n teimlo’n hyderus y byddai’r Brifysgol a’m hysgol yn fy nghefnogi i gyflawni’r radd Meistr. Holais am y cwrs MA Addysg (Cymru) yn ystod fy ail flwyddyn o addysgu, fel y sylweddolais fod angen i mi ddechrau’r ymholiadau os oeddwn yn mynd i wneud cais, ac ar ôl yr e-bost hwnnw, y peth nesaf oedd fy mod wedi ymrestru!

Beth ydych chi am ei ennill o astudio’r MA Addysg Genedlaethol (Cymru)?
Y modiwlau ADY a Dylunio’r Cwricwlwm oedd y modiwlau cyntaf a ddaliodd fy sylw yn fawr ac rwy’n teimlo’n angerddol i’w harchwilio. Roeddwn hefyd eisiau ymestyn fy addysg uwch a bod yn fodel rôl i’m plant. Yn y Cwricwlwm i Gymru, rydym yn dysgu’r plant i fod yn “ddysgwyr gydol oes” ac i fod yn “ddinasyddion gweithgar yn ein cymunedau” a pha ffordd well o osod esiampl i’r plant fy mod yn dal i ddysgu pethau newydd, yn mwynhau ac ymrwymo fy hun i fod yn well. Mae fy ysgol wedi bod yn hynod gefnogol ac wedi bod yn galonogol iawn i mi barhau ag addysg uwch, gan ddangos eto sut mae ysgolion yn sefydliadau dysgu i bawb, nid y plant yn unig.

Beth yw’r uchafbwyntiau ar yr MA hyd yn hyn?
Roeddwn i’n gwybod bod astudio fy MA Addysg yng Nghymru yn hanfodol gan fy mod am ganolbwyntio ar agwedd ADY y cwrs ac roedd fy holl fodiwlau o fewn fy Meistri yn canolbwyntio ar y diwygiad ADY newydd yng Nghymru, yn rhannu ac archwilio am y diwygiad newydd a sut mae’n cael ei weithredu o fewn ysgolion ar lefel leol a chenedlaethol. Credaf fod hyn yn hanfodol i ymarferwyr yng Nghymru gael y wybodaeth ddiweddaraf am y diwygiadau a’r amcanion cenedlaethol gan ei fod yn golygu bod y dysgu a’r aseiniadau yn bwrpasol, yn fuddiol i mi fy hun a’r dysgwyr yn fy nosbarth, fel y gallaf archwilio a defnyddio’r arfer ar waith.

Rwy’n mwynhau’r siaradwyr gwadd yn ystod dyddiau’r gynhadledd yr MA. Rwyf wrth fy modd yn cael arbenigwyr ADY ac AAA yn bresennol yn y sesiynau, i ateb ein cwestiynau a rhannu eu profiad a’u harbenigedd. Mae’r gweithwyr proffesiynol hyn yn gynrychiolwyr byd-eang o’r meysydd dysgu ac rwy’n cael fy ysbrydoli ganddyn nhw. Mae’n anrhydedd eu bod yn cael ateb ein cwestiynau a rhoi eu cyngor a’u syniadau i ni.

Rwy’n hoffi cael y cyfle i rannu profiadau a syniadau gydag ymarferwyr eraill o bob cefndir a gyrfa sy’n gallu rhannu eu harbenigedd. Roeddwn i eisiau ymestyn fy addysg uwch i fod yn fodel rôl i’m dysgwyr. Rwy’n mwynhau archwilio strategaethau a rhannu strategaethau gydag athrawon eraill ledled Cymru i rannu pa arferion a wnawn yn yr ystafell ddosbarth.

Sut brofiad oedd astudio a gweithio’n llawn amser fel athro?
Fel arfer byddaf yn neilltuo dwy noson yr wythnos i ddal i fyny ar ddarlleniadau, darlithoedd neu waith aseiniad. Mae’n well cadw’n drefnus ac aros ar y felin draed!! Rwy’n hoffi astudio pwnc ac yna dod i’w weld ar waith yn yr ystafell ddosbarth. . Er enghraifft, caniataodd un modiwl i mi archwilio “Ystafelloedd Cynhwysol” a mwynheais archwilio’r strategaethau hyn a rhannu strategaethau gydag athrawon eraill ledled Cymru, a rhannu’r arferion a wnawn yn yr ystafelloedd dosbarth.

Beth ydych chi wedi dysgu a fydd yn eich helpu yn yr ystafell ddosbarth?
Mae’r cwrs hwn wedi creu llinell ymholiad ar gyfer fy nyheadau ADY. Rwy’n credu bod ADY mor bwysig, yn enwedig mewn addysg ac mewn cymdeithas ar hyn o bryd ac mae cael modiwlau penodol sy’n darparu ar gyfer archwilio ac astudio’r pwnc hwn wedi gwneud i mi archwilio fy arddulliau a’m strategaethau addysgeg fy hun.