Mae'r MA Addysg (Cymru) cenedlaethol yn rhaglen wirioneddol drawsnewidiol ac arloesol ar gyfer gweithwyr addysgol proffesiynol yng Nghymru, o athrawon ar ddechrau gyrfa i uwch arweinwyr.

Mae’r tirlun addysgol yng Nghymru’n newid yn gyflym. Mae addysgu nid yn unig yn gofyn am feistrolaeth ar set gymhleth o sgiliau i arwain, ysgogi, a hwyluso dysgu myfyrwyr, ond hefyd y gallu i ymholi i ymarfer proffesiynol er mwyn ei wella. Bydd yr MA cenedlaethol mewn Addysg (Cymru), sydd wedi’i datblygu ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, drwy gydweithio’n uniongyrchol ag amrywiaeth o ran ddeiliaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru-yn sicrhau bod pob gweithiwr addysg proffesiynol yng Nghymru yn cael yr un cyfle o ansawdd uchel i wella ei wybodaeth broffesiynol, ymwneud ag ymchwil, a gwella eu hymarfer proffesiynol.

Anogir darpar-fyfyrwyr i gysylltu â’r sefydliad trwy dudalen y cwrs isod.