Dilynwch y broses o gyflwyno cais ar gyfer y Rhaglen, bydd panel ariannu yn penderfynu a ydych chi'n gymwys am gyllid.
Mae un set o feini prawf cyllido ar gyfer yr MA Cenedlaethol a’r holl lwybrau ar gyfer dechrau yn 2022. Dylai ymgeiswyr o ysgolion annibynnol a’r Rhanbarthau gyfeirio at feini prawf cyllido llwybr ADY ac Arweinyddiaeth yn unig.
Gweler y meini prawf cyllido.
Golyga hyn fod rhaid i chi fod rhwng blwyddyn 3 a blwyddyn 6 ymarfer addysgu ar ôl i chi gwblhau eich cyfnod sefydlu ANG yn llwyddiannus.
Cynigir y cyllid ar gyfer y rhaglen hon gan Lywodraeth Cymru fel ran o Becyn Athrawon Gyrfa Gynnar.
Ar gyfer Lleoedd mewn Ysgolion Partner Addysg Gychwynnol i Athrawon, rhaid bod ymgeiswyr yn dod o ysgol bartner. Cysylltwch â rheolwr y rhaglen am ragor o wybodaeth. Ar gyfer Lleoedd mewn Ysgolion Partner Addysg Gychwynnol i Athrawon, rhaid bod ymgeiswyr yn dod o ysgol bartner. Cysylltwch â rheolwr y rhaglen am ragor o wybodaeth.
Nid ystyrir amser a dreulir fel athro y tu allan i'r DU neu seibiant o'ch gyrfa fel blynyddoedd ymarfer.
Oes, dylech chi fod wedi cofrestru gyda'r CGA fel athro neu athrawes (a rhaid cynnal hwn drwy gydol hyd y rhaglen).
Oes, cyhyd â'ch bod wedi'ch cyflogi ar gontract sydd o leiaf 0.4 CALl, gall hyn gynnwys athrawon/darlithwyr cyflenwi sydd ar gontractau hirdymor naill ai gydag Awdurdod Lleol, ysgol, coleg neu asiantaeth.
Ydych, cyhyd â bod eich contractau'n cynnwys 0.4 CALl neu fwy, rydych chi'n gymwys i wneud cais am gyllid.
Ydych, cyhyd â bod eich contractau'n cynnwys 0.4 CALl neu fwy, rydych chi'n gymwys i wneud cais am gyllid.
Nac ydych, rhaid i chi fod wedi cofrestru gyda'r CGA yng nghategori athro ysgol i fod yn gymwys i gyflwyno cais am gyllid.
Wrth dderbyn y cynnig hwn am grant, gofynnir i athrawon barhau i weithio yng Nghymru, o fewn y system addysg a gynhelir am o leiaf ddwy flynedd ar ôl iddynt gwblhau'r rhaglen.
Gofyniad preswyliad (cyn astudio) Er mwyn i chi fod yn gymwys i dderbyn cyllid, rhaid eich bod chi'n byw yng Nghymru (ni nodir terfyn ar amser).
Os ydych chi eisoes wedi astudio rhaglen Meistr sy'n benodol i'r pwnc yna byddwch chi'n gymwys o hyd i gyflwyno cais am gyllid (gan ddibynnu ar fodloni'r holl feini prawf eraill). Sylwer os ydych chi eisoes wedi ymgymryd â gradd MEd a ariennir yna ni fyddwch chi'n gymwys i gyflwyno cais am gyllid ar gyfer yr MA Cenedlaethol.
Dylai ymgeiswyr nad ydynt yn fodlon ar benderfyniad Panel Dyfarnu Cyllid yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) gysylltu â Chadeirydd y Panel yn y lle cyntaf.
Ar ôl iddo dderbyn eich cais, bydd y tîm Derbyn Myfyrwyr yn y sefydliad o'ch dewis yn sicrhau eich bod chi'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd. Yna bydd Panel Dyfarnu Cyllid yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) yn asesu'r holl geisiadau cymwys i benderfynu ar y canlyniad a dyfarnu cyllid i'r sawl sy'n llwyddiannus. Mae'r Panel yn cynnwys cynrychiolwyr o bob Prifysgol Bartner ac mae'n adrodd i'r Bwrdd Rheoli Cenedlaethol (sy'n cynnwys aelodau o Lywodraeth Cymru), i sicrhau atebolrwydd a goruchwylio amlwg.
Ceir 500 o leoedd wedi'u hariannu ar draws partneriaeth yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru).
Ceir 30 o leoedd ar gyfer y llwybr Anghenion Dysgu Ychwanegol a 50 o leoedd ar gyfer y llwybr Arweinyddiaeth, nid ychwanegir y rhain at y 500 o leoedd ond byddant yn ffurfio rhan o'r garfan hon sy'n bodloni'r meini prawf penodol.
Nac ydych.
Mae cyllid partner Addysg Gychwynnol i Athrawon ar gyfer myfyrwyr mewn Ysgolion Partner Addysg Gychwynnol i Athrawon sy'n gysylltiedig â Phrifysgol benodol yn unig. Rhaid bod ymgeiswyr yn cefnogi myfyrwyr Addysg Gychwynnol i Athrawon.
Dylech chi gyflwyno cais yn uniongyrchol i'ch sefydliad dewis cyntaf. Mae manylion ar gael yn: Dolen i'r brif dudalen a 2 lwybr.
Mae'r MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) a'r llwybrau Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Arweinyddiaeth arbenigol yn rhaglenni sydd wir yn drawsnewidiol ac yn arwain y sector ar gyfer gweithwyr proffesiynol addysg yng Nghymru, o athrawon gyrfa gynnar i uwch arweinwyr. Mae'r tirlun addysgol yng Nghymru'n newid yn gyflym. Mae addysgu nid yn unig yn gofyn am feistrolaeth ar set gymhleth o sgiliau i arwain, ysgogi, a hwyluso dysgu myfyrwyr, ond hefyd y gallu i ymholi i ymarfer proffesiynol er mwyn ei wella. Bydd yr MA cenedlaethol mewn Addysg (Cymru), sydd wedi'i datblygu ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, drwy Bydd yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) - sydd wedi'i datblygu ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, drwy gyfranogiad uniongyrchol ag amrywiaeth o randdeiliaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru - yn sicrhau bod yr holl weithwyr proffesiynol addysg yng Nghymru yn meddu ar yr un cyfle o safon i wella eu gwybodaeth broffesiynol, ymgysylltu ag ymchwil a gwella eu harfer proffesiynol.
MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru): Mae Anghenion Dysgu Ychwanegol yn rhaglen drawsnewidiol sy'n arwain y sector ar gyfer gweithwyr proffesiynol addysg yng Nghymru, o athrawon gyrfa gynnar i uwch-arweinwyr sydd â diddordeb mewn Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Mae'r tirlun addysgol yng Nghymru'n newid yn gyflym. Mae addysgu nid yn unig yn gofyn am feistrolaeth ar set gymhleth o sgiliau i arwain, ysgogi, a hwyluso dysgu myfyrwyr, ond hefyd y gallu i ymholi i ymarfer proffesiynol er mwyn ei wella. Bydd yr MA cenedlaethol mewn Addysg (Cymru), sydd wedi'i datblygu ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, drwy
Bydd yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru): rhaglen Anghenion Dysgu Ychwanegol - sydd wedi'i datblygu ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, drwy gyfranogiad uniongyrchol ag amrywiaeth o randdeiliaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru - yn sicrhau bod yr holl weithwyr proffesiynol addysg yng Nghymru yn meddu ar yr un cyfle o safon i wella eu gwybodaeth broffesiynol, ymgysylltu ag ymchwil a gwella eu arfer proffesiynol ym maes Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae'r MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru): Arweinyddiaeth yn rhaglen drawsnewidiol sy'n arwain y sector ar gyfer gweithwyr proffesiynol addysg yng Nghymru, o athrawon gyrfa gynnar i uwch-arweinwyr â diddordeb mewn arweinyddiaeth.
Mae'r tirlun addysgol yng Nghymru'n newid yn gyflym. Mae addysgu nid yn unig yn gofyn am feistrolaeth ar set gymhleth o sgiliau i arwain, ysgogi, a hwyluso dysgu myfyrwyr, ond hefyd y gallu i ymholi i ymarfer proffesiynol er mwyn ei wella. Bydd yr MA cenedlaethol mewn Addysg (Cymru), sydd wedi'i datblygu ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, drwy
Bydd yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru): Arweinyddiaeth - sydd wedi'i datblygu ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, drwy gyfranogiad uniongyrchol ag amrywiaeth o randdeiliaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru - yn sicrhau bod yr holl weithwyr proffesiynol addysg yng Nghymru yn meddu ar yr un cyfle o safon i wella eu harweinyddiaeth a'u gwybodaeth broffesiynol, ymgysylltu ag ymchwil a gwella eu harfer proffesiynol.
Prifysgol Abertawe
Prifysgol Aberystwyth
Prifysgol Bangor
Prifysgol Fetropolitan Caerdydd
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Prifysgol De Cymru
Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
Nac ydy - ond rhaid bod ymgeiswyr yn meddu ar Statws Athro Cymwys ac yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd a nodir.
Dyddiad cau derbyn 1: 30 Mehefin 2022
Panel cyllido 1: 22 Gorffennaf 2022
Dyddiad ymateb i'r cais am gyllid: 5 Awst 2022
Dyddiad cau derbyn 2: 26 Awst 2022
Panel cyllido 2: 16 Medi 2022
Dyddiad ymateb i'r cais am gyllid: 30 Medi 2022
Dyddiad cau derbyn 3: 23 Medi 2022 Panel cyllido 3: 28 Medi.
Dyddiad ymateb i'r cais am gyllid: 12 Hydref 2022.
Dyddiad cofrestru hwyraf posib (rhaid bod myfyrwyr wedi cwblhau cofrestru erbyn y dyddiad hwn): 15 Hydref 2022
Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol yw'r broses o gydnabod dysgu a wneir gan unigolyn cyn iddo gychwyn ar yr MA. At ddibenion y rhaglen hon, mae'r term yn cynnwys y canlynol: a) Trosglwyddo Credydau - Lle dyfarnwyd y credydau neu'r cymhwyster gan sefydliad addysg uwch yn y DU fel rhan o gymhwyster ffurfiol; b) Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol trwy Brofiad - lle mae dysgu a gyflawnir drwy brofiad yn cael ei asesu a'i gydnabod. (Gweler dogfennau newydd ar Gydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol)
Efallai y bydd modd eich derbyn i'r MA ar sail eich bri yn y maes ar sail modiwlau lefel M a astudiwyd yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig yn ystod y pum mlynedd flaenorol. Dylech ddefnyddio'r ffurflen gais safonol i ymgeisio, ond dylech sicrhau eich bod yn cynnwys eich trawsgrifiadau academaidd blaenorol yn ogystal â chopi o faes llafur y cwrs gan roi manylion am y deilliannau dysgu a'r pwysoliadau credyd.
Datganiad Personol neu CV (mae angen yr ail os ydych chi'n cyflwyno cais am Achrediad Dysgu drwy Brofiad; Os ydych chi'n cyflwyno cais am Drosglwyddo Credydau, bydd angen i chi gynnwys eich Trawsgrifiad Academaidd SAC gan restru'ch modiwlau; Ffurflen gais atodol am gyllid os ydych chi'n cyflwyno cais am gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys pynciau a astudiwyd a graddau a gyflawnwyd.
Mae Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol (y cyfeirir ato'n aml fel RPL) yn galluogi Prifysgolion i wneud eithriadau ar gyfer modiwlau neu feysydd pwnc y mae ymgeiswyr eisoes wedi'u 'cwblhau', naill ai drwy addysg ffurfiol neu drwy brofiad a datblygiad proffesiynol. Felly ni ofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ailadrodd neu gwblhau dysgu y cydnabyddir eu bod nhw eisoes wedi'i gyflawni.
Mae MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) wedi'i dylunio i gydnabod y bydd eisoes gan lawer o fyfyrwyr gymwysterau a/neu brofiad proffesiynol sy'n golygu y gallant ddangos eu bod wedi cyflawni modiwlau blwyddyn 1 y rhaglen, felly nad oes rhaid iddynt ailadrodd cynnwys. Ni fydd Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol yn berthnasol i fodiwlau blwyddyn 2 neu'r Traethawd Estynedig ac mae'n rhaid i'r holl fyfyrwyr gwblhau'r rhain.
O ganlyniad, gall ymgeiswyr sydd â chymwysterau cydnabyddedig (e.e. TAR) a/neu brofiad proffesiynol sylweddol gyflwyno cais i'r rhain gael eu cydnabod yn ffurfiol yn lle rhai neu'r holl fodiwlau sy'n werth 60 o gredydau ym mlwyddyn 1 y rhaglen. I fod yn gymwys i gael eu hystyried, rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth academaidd a/neu broffesiynol priodol i ddangos eu bod yn bodloni'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y modiwlau, a restrir ar y Ffurflen Gais RPL.
Os oes gennych chi radd TAR sy'n werth 60 o gredydau ar lefel 7 FHEQ (Fframweithiau ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch) a gyflawnwyd fel arfer yn ystod y 5 mlynedd diwethaf, nid oes rhaid i chi fapio'ch dysgu proffesiynol i'r Deilliannau Dysgu ar y Ffurflen Gais RPL a dylech chi gyflwyno eich trawsgrifiad (os nad oes un o'r rhain gennych chi, dylech chi allu gofyn am un newydd gan eich Prifysgol).
Os oes gennych chi SAC heb TAR, neu os cyflawnwyd eich TAR mwy na 5 mlynedd yn ôl, neu os yw eich TAR yn cynnwys llai na 60 o gredydau ar lefel 7, bydd angen i chi gyflwyno eich trawsgrifiad ar gyfer elfennau o gredyd rydych chi am eu cynnwys, a bydd angen i chi fapio eich dysgu proffesiynol a/neu drwy brofiad i'r Deilliannau Dysgu ar y Ffurflen Gais RPL a rhaid i'ch dysgu fod yn werth y credydau sy'n weddill (e.e. os yw eich TAR yn rhoi 40 o gredydau ar lefel 7 i chi, bydd angen i chi ddangos dysgu drwy brofiad sy'n werth 20 o gredydau'n unig). Dylech chi fapio i'r modiwl(au) sy'n cynnwys y Deilliannau Dysgu sy'n arddangos orau eich dysgu proffesiynol a/neu drwy brofiad yn eich barn chi.
Lle gallwch chi ddarparu tystiolaeth ar gyfer rhai o'r Deilliannau Dysgu'n unig, byddwch chi'n cofrestru ar gyfer modiwlau ym mlwyddyn 1 sy'n angenrheidiol ar gyfer cwblhau'r Deilliannau Dysgu y mae eu hangen i symud ymlaen i ail flwyddyn y rhaglen.
Bydd y ffurflen hon yn manylu ar ddewis modiwlau astudio cychwynnol ac a oes rhai ohonynt yn gysylltiedig â'r llwybrau ADY neu Arweinyddiaeth arbenigol. Gellir hefyd ddarparu yma ddatganiad cefnogi gan eich ysgol er mwyn dangos ei hymrwymiad i chi astudio ar y cwrs.
Nid oes angen TGAU yn y Gymraeg arnoch chi i gyflwyno cais am y rhaglen hon.
Edrychwch ar wefannau sefydliadau unigol.
Gweler y tudalennau cwrs.
Nac ydych.
Gallwch, ond ni fyddwch chi'n gymwys am gyllid.
Nac ydych.