Mae’r MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru): Arweinyddiaeth yn rhaglen drawsnewidiol sy’n arwain y sector ar gyfer gweithwyr proffesiynol addysg yng Nghymru, o athrawon gyrfa gynnar i uwch-arweinwyr â diddordeb mewn arweinyddiaeth.
Mae’r tirlun addysgol yng Nghymru’n newid yn gyflym. Mae addysgu nid yn unig yn gofyn am feistrolaeth ar set gymhleth o sgiliau i arwain, ysgogi, a hwyluso dysgu myfyrwyr, ond hefyd y gallu i ymholi i ymarfer proffesiynol er mwyn ei wella. Bydd yr MA cenedlaethol mewn Addysg (Cymru), sydd wedi’i datblygu ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, drwy
Bydd yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru): Arweinyddiaeth – sydd wedi’i datblygu ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, drwy gyfranogiad uniongyrchol ag amrywiaeth o randdeiliaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru – yn sicrhau bod yr holl weithwyr proffesiynol addysg yng Nghymru yn meddu ar yr un cyfle o safon i wella eu harweinyddiaeth a’u gwybodaeth broffesiynol, ymgysylltu ag ymchwil a gwella eu harfer proffesiynol.
Bydd myfyrwyr yn dewis dau o’r tri modiwl arbenigol, a hefyd yn astudio’r modiwlau canlynol
- Sgiliau Ymchwil ac Ymholi Uwch
- Traethawd estynedig (Arweinyddiaeth)
Modiwlau Arbenigol:
- Arwain Newid Sefydliadol
- Arwain Systemau Addysg ac ar eu traws
- Arwain a Rheoli Gweithwyr Proffesiynol Addysg
Aseiniadau gwaith cwrs yw’r holl asesiadau a byddant yn cael eu cyflwyno ar ddiwedd pob modiwl. Mae aseiniadau wedi cael eu llunio i gyd-fynd â chyd-destunau ac amserlenni gwaith athrawon amser llawn, lle bynnag y bo’n bosib.
Ymarfer Dosbarth Cynhwysol
Bydd y modwl hwn yn caniatáu i fyfyrwyr gymryd rhan yn y trafodaethau allweddol ynghylch Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a chynhwysiant ar lawr dosbarth. Bydd y modwl yn cyfuno damcaniaethau ADY ag ymchwil ar arfer gorau. Bydd myfyrwyr yn defnyddio theori a thrafodaeth ddiweddar i feddwl yn feirniadol am ADY yng Nghymru a sut mae’n berthnasol yn ymarferol yn yr ystafelloedd dosbarth o’r ysgol hyd at addysg bellach (AB). Felly, bydd myfyrwyr yn ennill dealltwriaeth dda o theori ac ymarfer mewn ADY. Bydd y myfyrwyr yn datblygu’r gallu i feddwl yn feirniadol am y drafodaeth bresennol a defnyddio eu gwybodaeth i ymarfer ar lawr dosbarth. Ar ben hynny, anogir myfyrwyr i gydweithio a rhannu arfer gorau ym maes ADY a chynhwysiant.
Arweinyddiaeth a Rheolaeth ADY
Bydd y modwl hwn yn canolbwyntio ar y sgiliau sydd eu hangen i fod yn Gydlynydd ADY effeithiol o dan ALNET. Bydd y modwl yn gofyn am adfyfyrio’n fanwl ar feysydd cryfder personol a meysydd ar gyfer datblygu. Defnyddir senarios astudiaethau achos i archwilio swyddogaethau a chyfrifoldebau’r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ALNCo) mewn perthynas â phlant, teuluoedd a gweithio rhyngbroffesiynol. Bydd gofyn i fyfyrwyr ddangos gwybodaeth fanwl am strategaethau priodol i gefnogi’r rhai sydd ag ADY.
ADY: Rhagoriaeth mewn Ymarfer
Bydd y modwl hwn yn canolbwyntio ar arwain dulliau cyfan o Anghenion Dysgu Ychwanegol. Bydd y modwl yn gofyn i fyfyrwyr adfyfyrio ar sut y gellir gweithredu newid i wella addysg gynhwysol ar draws eu lleoliadau. Bydd myfyrwyr yn dadadeiladu enghreifftiau o arfer gorau ac yn adfyfyrio ar sut y gellir cymhwyso’r rhain i’w lleoliad eu hunain. Bydd myfyrwyr yn sicrhau dealltwriaeth o sut y gallant arwain newid cadarnhaol yn eu lleoliadau i wella ymarfer cynhwysol. Bydd myfyrwyr yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i ddangos rhagoriaeth mewn ymarfer yn Gydlynydd ADY.