MA Genedlaethol mewn Addysg (Cymru) Arweinyddiaeth

MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru): Mae Anghenion Dysgu Ychwanegol yn rhaglen drawsnewidiol sy’n arwain y sector ar gyfer gweithwyr proffesiynol addysg yng Nghymru, o athrawon gyrfa gynnar i uwch-arweinwyr sydd â diddordeb mewn Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Mae’r tirlun addysgol yng Nghymru’n newid yn gyflym. Mae addysgu nid yn unig yn gofyn am feistrolaeth ar set gymhleth o sgiliau i arwain, ysgogi, a hwyluso dysgu myfyrwyr, ond hefyd y gallu i ymholi i ymarfer proffesiynol er mwyn ei wella. Bydd yr MA cenedlaethol mewn Addysg (Cymru), sydd wedi’i datblygu ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, drwy

Bydd yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru): rhaglen Anghenion Dysgu Ychwanegol – sydd wedi’i datblygu ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, drwy gyfranogiad uniongyrchol ag amrywiaeth o randdeiliaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru – yn sicrhau bod yr holl weithwyr proffesiynol addysg yng Nghymru yn meddu ar yr un cyfle o safon i wella eu gwybodaeth broffesiynol, ymgysylltu ag ymchwil a gwella eu arfer proffesiynol ym maes Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Bydd myfyrwyr yn dewis dau o’r tri modiwl arbenigol, a hefyd yn astudio’r modiwlau canlynol

  • Sgiliau Ymchwil ac Ymholi Uwch
  • Traethawd Estynedig (ADY)

Modiwlau Arbenigol:

  • Ymarfer cynhwysol yn yr ystafell ddosbarth
  • Arweinyddiaeth a Rheolaeth ADY
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol – Rhagoriaeth mewn Ymarfer

Aseiniadau gwaith cwrs yw’r holl asesiadau a byddant yn cael eu cyflwyno ar ddiwedd pob modiwl. Mae aseiniadau wedi cael eu llunio i gyd-fynd â chyd-destunau ac amserlenni gwaith athrawon amser llawn, lle bynnag y bo’n bosib.

Arwain a Rheoli Gweithwyr Proffesiynol Addysgol

Mae’r modwl hwn yn canolbwyntio ar y modelau, y dulliau a’r arferion sydd eu hangen i arwain a rheoli gweithwyr addysg proffesiynol yn effeithiol. Mae’n archwilio’r arferion sy’n gysylltiedig ag arwain a rheoli gweithwyr proffesiynol addysg, mewn gwahanol leoliadau addysg, gan fanteisio’n benodol ar y seiliau tystiolaeth rhyngwladol sy’n ymwneud ag arweinyddiaeth systemau, arweinyddiaeth ganol, arweinyddiaeth cwricwlwm, arweinyddiaeth athrawon ac arwain dysgu proffesiynol. Bydd y modwl yn ystyried damcaniaethau arweinyddiaeth gydweithredol a dosbarthedig mewn perthynas ag arwain a rheoli gweithwyr proffesiynol eraill. Bydd hefyd yn ystyried y berthynas rhwng gorchmynion polisi lleol a chenedlaethol a’r arfer o arwain a rheoli gweithwyr proffesiynol addysg, yn enwedig mewn perthynas â gwireddu arweinyddiaeth system mewn gwahanol wledydd a chyd-destunau.

Arwain Newid Sefydliadol

Bydd y modwl hwn yn canolbwyntio ar brosesau ac ymarferoldeb arwain newid sefydliadol ar lefel ysgol a system. Bydd yn archwilio dadleuon allweddol ynghylch damcaniaethau newid a rheoli newid mewn perthynas â gwelliant sefydliadol. Bydd y modwl hwn yn paratoi myfyrwyr i archwilio’n feirniadol gyfraniad arweinyddiaeth mewn cyfnodau o newid sefydliadol ac ansicrwydd. Bydd yn rhoi iddynt y wybodaeth a’r ddealltwriaeth arweinyddiaeth i arwain a gweithredu newid yn effeithiol yn eu cyd-destun. Bydd y modwl yn cymharu gwahanol ddulliau o newid sefydliadol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, a’r gorchmynion polisi sy’n dylanwadu ar y newidiadau hyn.

Arwain o Fewn ac ar Draws Systemau Addysg

Mae arweinyddiaeth system o fewn ac ar draws sefydliadau addysgol yn fwy ac yn fwy pwysig wrth adeiladu’r cyfalaf proffesiynol angenrheidiol a’r gallu proffesiynol ar gyfer gwella. Mae tystiolaeth ryngwladol y gall arweinwyr systemau fod yn rym cadarnhaol ar gyfer newid.

Bydd y modwl hwn yn canolbwyntio ar rolau arweinyddiaeth, swyddogaethau a chyfrifoldebau’r rhai sy’n gweithredu yn arweinwyr system, ar wahanol lefelau. Mae’r dystiolaeth ryngwladol am arweinwyr systemau, fodd bynnag, yn tynnu sylw at yr angen am eglurder ynghylch:

  • Diffiniad, rôl a swyddogaethau arweinwyr system.
  • Y meini prawf ar gyfer dethol a’r broses benodi.
  • Cyfrifoldebau craidd a’r disgwyliadau a roddir ar arweinwyr system.
  • Y strwythurau atebolrwydd a’r prosesau gwerthuso sy’n amgylchynu eu rôl yn arweinydd system.
  • Mesur effaith arweinwyr system trwy brosesau monitro a gwerthuso y cytunwyd arnynt.

Felly bydd 4 llinyn craidd y modwl hwn yn cwmpasu’r agweddau micro a macro ar arwain o fewn systemau, ar draws a rhwng systemau.