MA Genedlaethol mewn Addysg (Cymru) Cwricwlwm

MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru): Mae Cwricwlwm yn rhaglen drawsnewidiol sy’n arwain y sector ar gyfer gweithwyr proffesiynol addysg yng Nghymru, o athrawon gyrfa gynnar i uwch-arweinwyr sydd â diddordeb mewn Cwricwlwm.

Mae’r tirlun addysgol yng Nghymru’n newid yn gyflym. Mae addysgu nid yn unig yn gofyn am feistrolaeth ar set gymhleth o sgiliau i arwain, ysgogi, a hwyluso dysgu myfyrwyr, ond hefyd y gallu i ymholi i ymarfer proffesiynol er mwyn ei wella. Bydd yr MA cenedlaethol mewn Addysg (Cymru), sydd wedi’i datblygu ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, drwy

Bydd yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru): rhaglen Cwricwlwm – sydd wedi’i datblygu ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, drwy gyfranogiad uniongyrchol ag amrywiaeth o randdeiliaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru – yn sicrhau bod yr holl weithwyr proffesiynol addysg yng Nghymru yn meddu ar yr un cyfle o safon i wella eu gwybodaeth broffesiynol, ymgysylltu ag ymchwil a gwella eu arfer proffesiynol ym maes Cwricwlwm.

Bydd myfyrwyr yn dewis dau o’r tri modiwl arbenigol, a hefyd yn astudio’r modiwlau canlynol

  • • Sgiliau Ymchwil ac Ymholi Uwch
  • • Traethawd Estynedig (Cwricwlwm)

Modiwlau Arbenigol:

  • • Archwilio Addysgeg
  • • Cynllunio A Gwireddu’r Cwricwlwm
  • • Arloesi ac Arweinyddiaeth Cwricwlwm

Aseiniadau gwaith cwrs yw’r holl asesiadau a byddant yn cael eu cyflwyno ar ddiwedd pob modiwl. Mae aseiniadau wedi cael eu llunio i gyd-fynd â chyd-destunau ac amserlenni gwaith athrawon amser llawn, lle bynnag y bo’n bosib.

Archwilio Addysgeg

Mae’r modwl hwn yn archwilio safbwyntiau lluosog a thrafodaethau rhyngwladol ynghylch yr egwyddorion pedagogaidd sy’n sail i ddysgu ac addysgu effeithiol mewn gwahanol leoliadau a chyd-destunau addysg. Bydd myfyrwyr yn gwerthuso damcaniaethau dysgu yn feirniadol a byddant yn archwilio’r dulliau pedagogaidd a ystyrir y rhai mwyaf effeithiol i gyflawni ystod eang o ganlyniadau dysgwyr. Mae’r modwl wedi’i gynllunio i alluogi myfyrwyr i ymestyn, dyfnhau, gwerthuso a chymhwyso eu gwybodaeth am theori ac ymchwil bedagogaidd i’w lleoliadau a’u cyd-destunau proffesiynol eu hunain. Bydd y modwl yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu dulliau moesegol o ymarfer pedagogaidd a bydd yn cefnogi eu hymchwiliad i wahanol fathau o ymarfer addysgol.

Dylunio a Gwireddu Cwricwlwm

Mae’r modwl hwn wedi’i gynllunio i alluogi myfyrwyr i ymgysylltu’n ddwfn â’r cysyniadau a’r ymchwil ryngwladol sydd wedi llywio datblygiad diweddar y cwricwlwm yng Nghymru. Bydd yn galluogi myfyrwyr i ystyried dylunio a gwireddu’r cwricwlwm mewn gwahanol gyd-destunau, gan gynnwys eu cyd-destunau eu hunain. Bydd y modwl yn galluogi myfyrwyr i werthuso gwahanol ddulliau dylunio cwricwlwm ac i werthuso’n feirniadol y gwahanol brosesau gweithredu sy’n cyd-fynd â newid cwricwlwm o fewn sefydliadau a systemau addysg.

Arweinyddiaeth ac Arloesedd Cwricwlwm

Mae’r modwl hwn yn archwilio damcaniaethau arweinyddiaeth ac arloesedd gyda ffocws penodol ar Gwricwlwm Cymru. Bydd myfyrwyr yn gwerthuso’n feirniadol wahanol ddulliau o arweinyddiaeth ac yn cymhwyso’r damcaniaethau hynny i’w lleoliadau proffesiynol a’u cyd-destunau proffesiynol eu hunain. Ar ben hynny, archwilir cyd-destun arweinyddiaeth yng Nghwricwlwm Cymru gyda phwyslais ar ddeall arweinyddiaeth wasgaredig a rheoli Meysydd Dysgu a Phrofiad gan gyfeirio at alluoged a chyfrifoldeb athrawon. Bydd y modwl hefyd yn tynnu ar ddadleuon athronyddol a damcaniaethol allweddol ynghylch theori pedagogaidd ac yn caniatáu i fyfyrwyr archwilio’r defnydd arnynt yn eu lleoliadau a’u cyd-destunau addysgol eu hunain. Yn ogystal, bydd y modwl yn tynnu ar strategaethau arloesol ar gyfer cwricwlwm, dylunio, gweithredu a rheoli ac yn caniatáu i fyfyrwyr adfyfyrio ar eu defnydd yn eu lleoliadau a’u cyd-destunau addysgol eu hunain.