Mae’r MA Addysg (Cymru) cenedlaethol yn rhaglen wirioneddol drawsnewidiol ac arloesol ar gyfer gweithwyr addysgol proffesiynol yng Nghymru, o athrawon ar ddechrau gyrfa i uwch arweinwyr. Mae’r tirlun addysgol yng Nghymru’n newid yn gyflym. Mae addysgu nid yn unig yn gofyn am feistrolaeth ar set gymhleth o sgiliau i arwain, ysgogi, a hwyluso dysgu myfyrwyr, ond hefyd y gallu i ymholi i ymarfer proffesiynol er mwyn ei wella. Bydd yr MA cenedlaethol mewn Addysg (Cymru), sydd wedi’i datblygu ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, drwy Bydd yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) – sydd wedi’i datblygu ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, drwy gyfranogiad uniongyrchol ag amrywiaeth o randdeiliaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru – yn sicrhau bod yr holl weithwyr proffesiynol addysg yng Nghymru yn meddu ar yr un cyfle o safon i wella eu gwybodaeth broffesiynol, ymgysylltu ag ymchwil a gwella eu harfer proffesiynol.
Mae modiwlau fel arfer yn cynnwys:
- Sgiliau Ymchwil ac Ymholi Uwch
- Anghenion Dysgu Ychwanegol
- Cynllunio A Gwireddu’r Cwricwlwm
- Arfer Sy’n Seiliedig ar Dystiolaeth Mae aseiniadau wedi cael eu llunio i gyd-fynd â chyd-destunau ac amserlenni gwaith athrawon amser llawn, lle bynnag y bo’n bosib.