MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru): Mae Ecwiti mewn Addysg yn rhaglen drawsnewidiol sy’n arwain y sector ar gyfer gweithwyr proffesiynol addysg yng Nghymru, o athrawon gyrfa gynnar i uwch-arweinwyr sydd â diddordeb mewn Ecwiti mewn Addysg.
Mae’r tirlun addysgol yng Nghymru’n newid yn gyflym. Mae addysgu nid yn unig yn gofyn am feistrolaeth ar set gymhleth o sgiliau i arwain, ysgogi, a hwyluso dysgu myfyrwyr, ond hefyd y gallu i ymholi i ymarfer proffesiynol er mwyn ei wella. Bydd yr MA cenedlaethol mewn Addysg (Cymru), sydd wedi’i datblygu ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, drwy
Bydd yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru): rhaglen Ecwiti mewn Addysg – sydd wedi’i datblygu ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, drwy gyfranogiad uniongyrchol ag amrywiaeth o randdeiliaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru – yn sicrhau bod yr holl weithwyr proffesiynol addysg yng Nghymru yn meddu ar yr un cyfle o safon i wella eu gwybodaeth broffesiynol, ymgysylltu ag ymchwil a gwella eu arfer proffesiynol ym maes Ecwiti mewn Addysg.
Bydd myfyrwyr yn dewis dau o’r tri modiwl arbenigol, a hefyd yn astudio’r modiwlau canlynol
- Sgiliau Ymchwil ac Ymholi Uwch
- Traethawd Estynedig (Ecwiti mewn Addysg)
Modiwlau Arbenigol:
- Iechyd Emosiynol, Iechyd Meddwl a Lles
- Ecwiti ac Amrywiaeth
Ymateb i Effeithiau Tlodi ac Anfantais mewn Addysg
Aseiniadau gwaith cwrs yw’r holl asesiadau a byddant yn cael eu cyflwyno ar ddiwedd pob modiwl. Mae aseiniadau wedi cael eu llunio i gyd-fynd â chyd-destunau ac amserlenni gwaith athrawon amser llawn, lle bynnag y bo’n bosib.
Iechyd Emosiynol, Iechyd Meddwl a Llesiant (20 credyd)
Bydd y modwl hwn yn canolbwyntio ar iechyd emosiynol, iechyd meddwl a llesiant mewn lleoliadau addysgol. Bydd yn archwilio’n feirniadol yr ymchwil ryngwladol ar iechyd emosiynol, iechyd meddwl a llesiant i archwilio’r sylfaen dystiolaeth o sawl safbwynt ac o wahanol gyd-destunau. Bydd myfyrwyr yn archwilio ffactorau sy’n effeithio ar iechyd emosiynol, iechyd meddwl a llesiant, a byddant yn gwerthuso’n feirniadol ystod o ymyriadau cynnar mewn perthynas â hyrwyddo ac amddiffyn iechyd meddwl a llesiant plant / glasoed, wrth archwilio hefyd y dystiolaeth ryngwladol ynghylch effeithiolrwydd ystod o fesurau ataliol. Bydd y modwl yn galluogi myfyrwyr i ymestyn, dyfnhau, gwerthuso a (lle bo hynny’n briodol) defnyddio eu gwybodaeth am theori ac ymchwil ynghylch iechyd emosiynol, iechyd meddwl a llesiant i’w cyd-destunau personol/proffesiynol.
Tegwch ac Amrywiaeth (20 credyd)
Nod y modwl hwn yw datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o gydraddoldeb, amrywiaeth ac effaith anghydraddoldebau ar ganlyniadau a phrofiadau addysgol. Bydd yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu dealltwriaeth uwch sy’n seiliedig ar dystiolaeth o ddimensiynau amrywiaeth yng nghymdeithas gyfoes Cymru ac ar draws cyd-destunau a lleoliadau rhyngwladol. Bydd y modwl yn gofyn i fyfyrwyr feddwl yn feirniadol am y mathau o anghydraddoldeb sydd mewn addysg gyfoes, cymryd rhan mewn dadleuon llosg ynghylch sut mae systemau addysg yn nodi anghydraddoldebau a defnyddio strategaethau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer mynd i’r afael ag anghydraddoldebau. Bydd y modwl yn caniatáu i fyfyrwyr adfyfyrio’n feirniadol ar drafodaethau am rôl y system addysg wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldebau ac annhegwch.
Ymateb i effeithiau tlodi ac anfantais mewn addysg
Mae dros draean y plant a’r bobl ifanc sy’n byw yng Nghymru yn byw mewn tlodi heddiw. Mae tlodi ac anfantais yn effeithio ar fywydau disgyblion, myfyrwyr, teuluoedd, staff a chymunedau. Nod y modwl hwn yw datblygu dealltwriaeth myfyrwyr o dlodi ac anfantais, a sut mae’r rhain yn effeithio ar ddysgu a datblygiad. Mae’n bwydo i newidiadau radical mewn newidiadau parhaus i bolisi addysg yng Nghymru. Bydd y modwl hwn yn caniatáu i fyfyrwyr adfyfyrio’n feirniadol ar eu profiadau eu hunain a sut, yn bersonol, maen nhw’n gweld tlodi ac anfantais. Gofynnir i fyfyrwyr adfyfyrio’n feirniadol ar y ffyrdd y mae eu lleoliadau addysgol yn mesur dysgu a datblygiad ac a yw hyn yn cynorthwyo gyda’r problemau parhaus sy’n gysylltiedig â thlodi ac anfantais. Yn olaf, mae’r modwl hwn yn cynorthwyo myfyrwyr i fod yn greadigol o ran eu dull o gefnogi dysgwyr yn eu lleoliad addysgol dewisol a’r rhwystrau y gallant eu hwynebu ar hyd y ffordd, gan eu galluogi i feddwl am ffyrdd newydd o weithio yng Nghymru.