Hysbysiad Preifatrwydd

MA Addysg Genedlaethol (Cymru): Defnyddio Eich Gwybodaeth Bersonol

Bydd y bartneriaeth MA Addysg Genedlaethol (Cymru) yn cadw gwybodaeth bersonol a roddwch i ni Ariennir yr MA Addysg Genedlaethol (Cymru) gan Lywodraeth Cymru. At ddibenion yr hysbysiad preifatrwydd hwn, Prifysgol Abertawe yw arweinydd y prosiect, a datblygwyd y rhaglen mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam a Llywodraeth Cymru.

Yn y ddogfen hon, gellir cyfeirio hefyd at yr MA Addysg Genedlaethol (Cymru) fel ”y Bartneriaeth”,

Mae partneriaeth Genedlaethol MA Addysg (Cymru) wedi ymrwymo i ddiogelu hawliau defnyddwyr cofrestredig yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data. Ar gyfer data, mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i’r Bartneriaeth gasglu Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ac mae’r partneriaid MA Addysg Genedlaethol (Cymru) yn broseswyr data. Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn Data.ProtectionOfficer@gov.wales. Gall y bartneriaeth MA Addysg Genedlaethol (Cymru) hefyd rannu data gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA). Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data CGA yn dataprotection@ewc.wales.

Ar gyfer data personol arall a gesglir gan y bartneriaeth MA Addysg Genedlaethol (Cymru), mae sefydliadau partner yn rheolwyr data ar y cyd ac mae ganddynt Swyddogion Diogelu Data penodedig gyda’r manylion cyswllt canlynol:

Prifysgol Aberystwyth: infocompliance@aber.ac.uk

Prifysgol Bangor: info-compliance@bangor.ac.uk

Prifysgol Metropolitan Caerdydd: dataprotection@cardiffmet.ac.uk

Prifysgol Abertawe: dataprotection@swansea.ac.uk

Prifysgol De Cymru: dataprotection@southwales.ac.uk

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: foi@uwtsd.ac.uk

Prifysgol Glyndwr Wrecsam: dpo@glyndwr.ac.uk

Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu, sut bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio a beth yw ein sail gyfreithiol?

Pan fyddwch yn cofrestru fel myfyriwr yn un o’r sefydliadau partner bydd eich data personol yn cael ei gasglu a’i brosesu yn unol â Hysbysiad Preifatrwydd Myfyriwr y partner cynnal. Gellir cael rhagor o wybodaeth drwy’r dolenni canlynol:-

Prifysgol Aberystwyth

Prifysgol Bangor

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Prifysgol Abertawe

Prifysgol De Cymru

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Prifysgol Glyndwr Wrecsam

Data y mae’n ofynnol i ni ei gasglu ar ran Llywodraeth Cymru

  • Gweinyddu agweddau ariannol ar eich cofrestriad fel myfyriwr ( e.e. talu ffioedd, casglu dyledion) 6(1)(b) lle mae angen prosesu er mwyn cyflawni contract gyda chi , 6(1)(e) lle mae angen prosesu am gyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd .
  • Cynhyrchu ystadegau rheoli a chynnal ymchwil i effeithiolrwydd ein rhaglenni astudio yn ogystal â chynhyrchu ystadegau at ddibenion statudol 6(1)(e) lle mae angen prosesu er mwyn cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd , 9( 2)(j) lle mae angen prosesu at ddibenion archifo er budd y cyhoedd, at ddibenion ymchwil wyddonol neu hanesyddol neu at ddibenion ystadegol.

Data y mae’n ofynnol i ni ei gasglu ar ran y bartneriaeth MA Addysg Genedlaethol (Cymru).

  • Gweinyddu eich astudiaethau a chofnodi cyflawniadau academaidd (e.e, eich dewisiadau cwrs, arholiadau ac asesiadau, a chyhoeddi rhestrau pasio a rhaglenni graddio). 6(1)(b) lle mae angen prosesu er mwyn cyflawni contract gyda chi, 6(1)(e) lle mae angen prosesu ar gyfer cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd
  • At ddibenion recordio darlithoedd, cyfarfodydd, asesiadau myfyrwyr ac arholiadau 6(1)(b) 6(1)(e) lle mae angen prosesu er mwyn cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd, 6(1)(f ) pan fo angen prosesu at ddibenion y buddiannau cyfreithlon a ddilynir gan y rheolwyr neu gan drydydd parti.
  • Cynhyrchu ystadegau rheoli a chynnal ymchwil i effeithiolrwydd ein rhaglenni astudio yn ogystal â chynhyrchu ystadegau at ddibenion statudol 6(1)(e), lle mae angen prosesu er mwyn cyflawni tasg a wneir er budd y cyhoedd 9( 2)(j) mae angen prosesu at ddibenion archifo er budd y cyhoedd, at ddibenion ymchwil wyddonol neu hanesyddol neu at ddibenion ystadegol.
  • Cynnal arolygon – o bryd i’w gilydd gall sefydliadau sy’n cymryd rhan gynnal arolygon wedi’u cynllunio i gasglu adborth myfyrwyr am y profiad o addysgu, dysgu, asesu, cyfleusterau, a datblygu sgiliau fel y gallwn wneud gwelliannau i bob myfyriwr. Efallai y byddant yn defnyddio’ch manylion i wneud cyswllt cychwynnol ond mae’r data sy’n deillio o hyn yn ddienw – caiff canlyniadau eu hagregu ar lefel modiwl neu raglen i ddiogelu anhysbysrwydd myfyrwyr. Bydd prosesu o’r fath yn digwydd dim ond pan fydd yn angenrheidiol er mwyn sicrhau buddiannau cyfreithlon y sefydliadau sy’n cymryd rhan neu’r myfyriwr a dim ond pan nad yw’r prosesu’n ddiangen ac na fydd yn achosi effaith niweidiol ar hawliau a rhyddid, neu fuddiannau cyfreithlon, y myfyriwr 6(1)(f), pan fo angen prosesu at ddibenion y buddiannau cyfreithlon a ddilynir gan y rheolwyr neu gan drydydd parti.
  • Hwyluso gweithgareddau yn ystod y rhaglen gan gynnwys addysgu ar-lein a gweithgareddau asesu ar-lein a gyflawnir gan ddarparwyr gwasanaethau trydydd parti. Bydd unrhyw drosglwyddiad yn amodol ar gytundeb ffurfiol, priodol rhwng y sefydliadau sy’n cymryd rhan a’r darparwr gwasanaeth trydydd parti 6(1)(b) lle mae angen prosesu er mwyn cyflawni contract gyda chi , 6(1)(e) lle mae angen prosesu er mwyn cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd

Pwy sy’n derbyn eich gwybodaeth?

Lle bo angen, bydd gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu o fewn y bartneriaeth MA Addysg Genedlaethol (Cymru). Mae gwybodaeth bersonol yn cael ei diogelu gan y Rheolydd Data ar ran Partneriaeth ac ni fydd gwybodaeth yn cael ei datgelu i drydydd parti heb eich caniatâd neu fel y caniateir gan y gyfraith. Gall y bartneriaeth MA Addysg Genedlaethol (Cymru) hefyd rannu data gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA) a Llywodraeth Cymru, yn unol â gofynion ariannu. Mae’n bosibl y bydd achosion eraill pan fydd eich data personol yn cael ei rannu, fel yr amlinellir yn Hysbysiad Preifatrwydd Myfyriwr pob sefydliad partner.

Am ba mor hir rydym yn cadw eich data

Byddwn ond yn cadw eich data personol cyhyd ag y bo angen i gyflawni’r dibenion y casglwyd ar eu cyfer, gan gynnwys at ddibenion bodloni unrhyw ofynion cyfreithiol, cyfrifeg neu adrodd. Ar ôl graddio bydd angen i’r Bartneriaeth gadw rhai cofnodion er mwyn iddi allu dilysu dyfarniadau, darparu trawsgrifiadau o’r marciau a darparu tystlythyrau academaidd ar gyfer cymorth gyrfa.

Er mwyn pennu’r cyfnod cadw priodol ar gyfer data personol, rydym yn ystyried swm, natur a sensitifrwydd y data personol, y risg bosibl o niwed o ddefnyddio neu ddatgelu eich data personol heb awdurdod, y dibenion yr ydym yn prosesu eich data personol ar eu cyfer ac a ydym yn gallu cyflawni’r dibenion hynny trwy ddulliau eraill, a’r gofynion cyfreithiol cymwys.

Gellir cael rhagor o wybodaeth o Hysbysiad Preifatrwydd Myfyriwr pob partner.

Bydd data personol a gesglir ar ran ac a rennir gyda Llywodraeth Cymru yn cael ei gadw yn unol â datganiad preifatrwydd Llywodraeth Cymru sy’n ymwneud â gofynion ariannu’r rhaglen hon.

Diogelwch eich gwybodaeth

Mae deddfwriaeth Diogelu Data yn ei gwneud yn ofynnol i ni gadw eich gwybodaeth yn ddiogel. Mae hyn yn golygu y bydd eich cyfrinachedd yn cael ei barchu, a bydd pob cam priodol yn cael ei gymryd i atal mynediad a datgeliad anawdurdodedig. Dim ond aelodau o staff sydd angen mynediad at rannau perthnasol neu’r holl wybodaeth fydd yn cael eu hawdurdodi i wneud hynny. Bydd gwybodaeth amdanoch ar ffurf electronig yn destun cyfrinair a chyfyngiadau diogelwch eraill, tra bydd ffeiliau papur yn cael eu storio mewn mannau diogel gyda mynediad rheoledig.

Gall rhywfaint o brosesu gael ei wneud ar ran y Bartneriaeth gan sefydliad sydd wedi’i gontractio er y diben hwnnw. Bydd sefydliadau sy’n prosesu data personol ar ran y Bartneriaeth yn rhwym i rwymedigaeth i brosesu data personol yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data.

Rydym wedi rhoi gweithdrefnau ar waith i ymdrin ag unrhyw amheuaeth o dor diogelwch data a byddwn yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys am amheuaeth o dor rheolau lle mae’n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.

Beth yw eich hawliau?

Mae gennych hawl i gael mynediad at eich gwybodaeth bersonol, i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol (nid yw gwrthwynebiadau bob amser yn absoliwt a byddent yn cael eu hystyried yn ôl eu teilyngdod ac yn unol â chanllawiau’r Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth), i gywiro, i ddileu ac i gyfyngu ar eich gwybodaeth bersonol. Mewn rhai amgylchiadau efallai y bydd gennych hefyd yr hawl i gludadwyedd. Os byddwch yn rhoi caniatâd i’r MA Addysg Genedlaethol (Cymru) brosesu unrhyw ran o’ch data, yna mae gennych hefyd hawl i dynnu’r caniatâd hwnnw yn ôl. Ewch i’r tudalennau gwe Diogelu Data ar gyfer y sefydliad partner MA Addysg Genedlaethol (Cymru) sy’n arwain eich prosiect am ragor o wybodaeth mewn perthynas â’ch hawliau.

Dylid gwneud unrhyw geisiadau neu wrthwynebiadau yn ysgrifenedig at y Swyddog Diogelu Data yn eich Prifysgol

Prifysgol Aberystwythinfocompliance@aber.ac.ukHawliau Gwrthrychau Data
Prifysgol Bangorinfo-compliance@bangor.ac.ukCanllawiau Diogelu Data
Prifysgol Metropolitan Caerdydddataprotection@cardiffmet.ac.uk Diogelu Data
Prifysgol Abertawedataprotection@swansea.ac.ukEich Hawliau – Prifysgol Abertawe
Prifysgol De Cymrudataprotection@southwales.ac.uk Diogelu Data
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Santfoi@uwtsd.ac.ukDiogelu Data
Prifysgol Glyndwr Wrecsamdpo@glyndwr.ac.ukDiogelu Data

Os ydych yn anhapus â’r ffordd y mae eich gwybodaeth bersonol wedi’i phrosesu, gallwch yn y lle cyntaf gysylltu â Swyddog Diogelu Data perthnasol y Brifysgol gan ddefnyddio’r manylion cyswllt uchod. Os ydych yn dal yn anfodlon, yna mae gennych yr hawl i wneud cais yn uniongyrchol i’r Comisiynydd Gwybodaeth am benderfyniad. Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn:- Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF www.ico.org.uk

Beth os na fyddwch yn darparu eich data personol?

Lle mae angen i ni gasglu data personol yn ôl y gyfraith, neu o dan delerau contract sydd gennym gyda chi a’ch bod yn methu â darparu’r data hwnnw pan ofynnir amdano, mae’n bosibl na fyddwn yn gallu cyflawni’r contract sydd gennym neu yr ydym yn ceisio’i wneud gyda chi (er enghraifft, i ddarparu nwyddau neu wasanaethau i chi). Yn yr achos hwn, efallai y bydd yn rhaid i ni ganslo cynnyrch neu wasanaeth sydd gennych gyda ni, ond byddwn yn rhoi gwybod i chi a yw hyn yn wir ar y pryd.

Eich cyfrifoldebau

Rhowch wybod am unrhyw newidiadau i’ch enw, cyfeiriad, manylion cyswllt cyn gynted ag sy’n ymarferol bosibl fel y gallwn ddiwygio ein cofnodion yn unol â hynny.

Gellir cael rhagor o wybodaeth drwy gysylltu â Rheolwr Rhaglen MA Addysg Genedlaethol (Cymru): enquiries@nationalmaeducation.wales

Cwcis