Doethur Addysg Cenedlaethol EdD (Cymru)
Mae ceisiadau ar gyfer 2026 bellach wedi cau. Bydd ceisiadau ar gyfer mynediad 2027 yn ailddechrau yn ystod gwanwyn 2026.
Doethur Addysg Cenedlaethol EdD (Cymru)
Gwybodaeth am Raglen Doethur Addysg Cenedlaethol (Cymru)
Gwneud cais am yr EdD (Cymru)
Strwythur y Doethur Addysg Cenedlaethol (Cymru)
Gwybodaeth i Ymgeiswyr 2026
Croesewir ceisiadau ar gyfer y rhaglen ran-amser Doethur Addysg Cenedlaethol (Cymru), sy’n cael ei chyd-gyflwyno gan Brifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd o Ionawr 2026 ymlaen.
Mae’r rhaglen hon ar gyfer ymarferwyr addysg sydd wedi cwblhau’r MA Addysg Cenedlaethol (Cymru), neu unrhyw radd Meistr Addysg arall lle gellir dangos cyfatebiaeth.
Gwybodaeth am Raglen Doethur Addysg Cenedlaethol (Cymru)
Fel rhan o ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i sefydlu proffesiwn sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac i ehangu cyfleoedd i addysgwyr yng Nghymru, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cefnogi datblygiad Doethuriaeth Addysg (EdD) Genedlaethol ddwyieithog newydd a lansiwyd yn llwyddiannus ym mis Ionawr 2025. Gan adeiladu ar yr MA Addysg Cenedlaethol (Cymru) a’r bartneriaeth gref sy’n bodoli eisoes rhwng Prifysgolion yng Nghymru, mae’r EdD Cenedlaethol (Cymru) yn cynnig llwybr clir ymlaen i weithwyr proffesiynol sy’n awyddus i adeiladu ar y dysgu a’r profiad ymchwil a gafwyd yn eu gradd Meistr, trwy weithio gyda darlithwyr ac arbenigwyr ymchwil ar draws prifysgolion Cymru ac arbenigwyr rhyngwladol.
Prif nodweddion y rhaglen:
-
Dilyniant – gall myfyrwyr sydd wedi cwblhau’r MA Cenedlaethol (Cymru), a’r rhai sydd â chymwysterau Meistr cyfatebol eraill, ddilyn astudiaethau lefel uwch sy’n rhoi ehangder o arbenigedd a chymorth o ansawdd gan y prifysgolion sy’n cymryd rhan.
-
Darpariaeth ddwyieithog – mae cyflwyno ac arbenigedd yn y ddwy iaith yn nodwedd bwysig o’r EdD Cenedlaethol (Cymru) gan hyrwyddo ysgolheictod yn y ddwy iaith.
-
Cymunedau Ymarfer – mae model ‘Cohort EdD Cenedlaethol (Cymru)’ yn creu seilwaith o unigolion cysylltiedig, hynod gymwys, sy’n gweithio ar lefel ddoethurol ac sydd yn y sefyllfa orau i helpu’r system yng Nghymru i symud ymlaen. Mae’r rhaglen yn mynnu bod myfyrwyr EdD Cenedlaethol (Cymru) yn ffurfio eu Cymunedau Ymarfer eu hunain ar gyfer cefnogaeth ac ymgysylltiad cydfuddiannol yn ystod y rhaglen.
-
Arbenigedd – mae academyddion blaenllaw yng Nghymru ac arbenigwyr rhyngwladol yn darparu arweiniad clir, cyson a rheolaidd i helpu myfyrwyr i lywio’u ffordd drwy astudiaeth lefel ddoethurol yn llwyddiannus. Mae natur gasgliadol yr arbenigedd sydd ar gael yn mynd y tu hwnt i’r hyn a brofir fel arfer mewn un sefydliad.
-
Dysgu Cyfunol – mae’r EdD Cenedlaethol (Cymru) yn sicrhau bod cyfranogwyr yn elwa ar ddull dysgu cyfunol er mwyn hyblygrwydd, gyda goruchwyliaeth bwrpasol trwy gydol eu hastudiaethau. Mae deunyddiau Dysgu o Bell i gefnogi sesiynau addysgu ar-lein ar gael drwy Basbort Dysgu Proffesiynol (PLP) y CGA.
Mae dyluniad yr EdD Cenedlaethol (Cymru) yn rhoi cyfle i ymarferwyr o fewn ystod eang o gyd-destunau addysgol ddilyn rhaglen ran-amser lefel 8, gyda chefnogaeth a chyngor ar y cyd gan y prifysgolion sy’n cymryd rhan i gwblhau gwaith lefel ddoethurol yn llwyddiannus.
Gwneud cais am yr EdD (Cymru)
Mae’r broses ymgeisio ar gyfer y rhaglen EdD Cenedlaethol yn cynnwys dau gam.
Cam 1
Dylai ymgeiswyr anfon y canlynol at yr Athro Michelle Jones, Cyfarwyddwr y Rhaglen EdD Genedlaethol, drwy NationalMAeducation@Cardiffmet.ac.uk erbyn 31 Gorffennaf 2025:
-
Cynnig Ymchwil (hyd at 1000 gair) gan gynnwys:
-
Rhesymau dros ddilyn yr EdD Cenedlaethol (Cymru)
-
Teitl arfaethedig gyda maes ymchwil
-
Cwestiwn/cwestiynau ymchwil arfaethedig
-
Cefndir/rhesymeg: pa ymchwil sydd eisoes wedi’i wneud?
-
Dyluniad/Methodoleg ymchwil arfaethedig
-
Pam mae’r ymgeisydd yn credu bod yr ymchwil yn bwysig
-
Rhestr cyfeiriadau (nid yw hyn yn rhan o’r 1000 gair)
-
-
Tystiolaeth o radd Meistr (gan gynnwys dosbarthiad a theitl traethawd hir) – PDF yn unig
-
Rôl a chyfrifoldebau presennol a dewis o brifysgol i gofrestru:
-
Aberystwyth
-
Bangor
-
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
-
(Noder: er y bydd pob myfyriwr EdD Cenedlaethol yn cofrestru mewn un sefydliad, bydd y cohort EdD Cenedlaethol yn cymryd rhan mewn profiadau dysgu a rennir, cynadleddau, cyfleoedd rhwydweithio a digwyddiad preswyl EdD wyneb yn wyneb ar y campws i bawb).
Cam 2
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus Cam 1 yn cael eu gwahodd i gyfweliad ar-lein i drafod eu Cynnig Ymchwil ac yna’n cael eu gofyn i gofrestru’n uniongyrchol gyda’r sefydliad o’u dewis.
Cyllid
Mae cyllid Llywodraeth Cymru ar gael i addysgwyr sy’n gweithio yng Nghymru* ac sy’n dangos eu bod yn bodloni’r meini prawf academaidd. Mae 30 lle â chyllid ar gael ar gyfer y cohort 2026. Mae opsiynau eraill yn cynnwys hunan-ariannu neu gyllid sefydliadol.
*Mae addysgwyr sy’n gymwys i gael cyllid Llywodraeth Cymru yn cynnwys:
-
Athrawon cymwys
-
Cynorthwywyr Addysgu neu Gynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch sy’n bodloni’r gofynion mynediad academaidd
-
Arolygwyr Estyn
-
Cynghorwyr awdurdod lleol / partneriaeth awdurdod lleol
I fod yn gymwys ar gyfer cyllid Llywodraeth Cymru, rhaid i ymgeiswyr:
-
fodloni’r gofynion mynediad academaidd
-
cael eu derbyn / cofrestru ar y rhaglen benodol hon o’r EdD Cenedlaethol (Cymru) a gynigir gan y 3 sefydliad partner (Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd)
-
naill ai:
a) weithio mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru a:-
bod yn gofrestredig gyda’r CGA (a’i gynnal drwy gydol y rhaglen)
-
bod wedi’u cyflogi ar gontract o leiaf 0.4FTE (gan gynnwys athrawon cyflenwi ar gontractau tymor hir)
b) gweithio fel arolygydd Estyn, neu
c) gweithio i awdurdod lleol neu bartneriaeth awdurdod lleol mewn rôl cynghori ysgolion
-
-
cael cefnogaeth eu Pennaeth neu gyfatebol (Prifathro, MD, Prif Weithredwr, Pennaeth Gwasanaeth).
Strwythur EdD Cenedlaethol (Cymru)
Bydd ymgeiswyr sydd wedi cwblhau’r MA Addysg Cenedlaethol (Cymru) neu raglen Meistr gyfatebol (mewn addysg) yn symud ymlaen i gam 1 (Blwyddyn 1) yr EdD Cenedlaethol gyda 120 credyd lefel 7 wedi’u mewnforio.
CAM 1 (Blwyddyn 1 EdD)
Mae Cam 1 yn cynnwys modiwl addysgedig 60 credyd lefel 8 ‘Cynllunio ar gyfer Astudiaeth Ddoethurol a Pharatoi Traethawd Hir’. Caiff y modiwl hwn ei ddarparu ar-lein drwy bedwar bloc addysgu (Ionawr–Hydref 2026) a gweithdy preswyl EdD haf ar y campws (Gorffennaf 2026). Bydd cefnogaeth drwy’r PLP hefyd ar gael.
CAM 2 (Blynyddoedd 2–6 EdD)
Bydd Cam 2 yn mynnu i fyfyrwyr gynnal ymchwil empirig gan arwain at gwblhau traethawd hir safon ddoethurol gyda chefnogaeth oruchwylwyr academaidd.
Cwestiynau Cyffredin:
-
Ar gyfer pwy mae’r rhaglen hon?
Rhaglen ran-amser yw’r EdD Cenedlaethol (Cymru) ar gyfer addysgwyr sydd wedi cwblhau’r MA Addysg Cenedlaethol (Cymru) neu raddau Meistr cyfatebol eraill. Rhaid dangos cyfatebiaeth ar gyfer graddedigion nad ydynt wedi gwneud yr MA Cenedlaethol. -
Sut mae’r rhaglen wedi’i strwythuro?
Cam 1 (Blwyddyn 1): Modiwl 60 credyd ‘Cynllunio ar gyfer Astudiaeth Ddoethurol a Pharatoi Traethawd Hir’, ar-lein gyda gweithdy haf gorfodol yng Nghaerdydd.
Cam 2 (Blynyddoedd 2–6): Ymchwil empirig gan arwain at draethawd hir lefel ddoethurol gyda chefnogaeth oruchwylwyr academaidd. -
Sut mae gwneud cais?
Anfon tystiolaeth o’ch gradd Meistr (dosbarthiad a theitl traethawd), llythyr cefnogaeth gan reolwr llinell, eich rôl a chyfrifoldebau presennol a’ch sefydliad dewisol (Aberystwyth, Bangor neu Brifysgol Metropolitan Caerdydd). Nodwch eich llwybr cyllido. Cyflwynwch grynodeb 1000 gair sy’n cynnwys rhesymau dros ddilyn yr EdD Cenedlaethol (Cymru), teitl, cwestiynau ymchwil, cefndir, methodoleg, pam mae’n bwysig ac ati. -
Pa opsiynau cyllido sydd ar gael?
Cyllid Llywodraeth Cymru (gweler y meini prawf cymhwysedd uchod), cyllid sefydliadol neu hunan-ariannu. -
A fydd unrhyw elfennau wyneb yn wyneb?
Oes, mae’r rhaglen yn cynnwys Ysgol Haf EdD Cenedlaethol orfodol ar y campws ym mis Gorffennaf 2026 ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Rhaid i ymgeiswyr ddangos cefnogaeth eu Pennaeth/rheolwr cyn gwneud cais. -
Sut i gael mwy o wybodaeth?
Cysylltwch â nationalmaeducation@cardiffmet.ac.uk. -
Beth sy’n digwydd ar ôl cyflwyno cais?
Bydd ymgeiswyr sy’n bodloni’r meini prawf cychwynnol yn cymryd rhan mewn cyfweliad. Ar ôl llwyddo, gofynnir i chi gofrestru gyda’r sefydliad o’ch dewis.
Dyddiad cau ar gyfer mynediad Ionawr 2026: 31 Gorffennaf 2025.